Rhifyn 301 - Nadolig 2008

Argraffu

Yn y siopau bellach y mae rhifyn Tachwedd/Rhagfyr/Ionawr 2008/9. Mae'r rhifyn 72 tudalen hwn o Barddas yn cynnwys:Rhifyn 301

Gwaith buddugol Vernon Jones yng nghystadleuaeth y Gadair, Eisteddfod Pontrhydfendigaid
Cerddi newydd gan Alan Llwyd, Ceri Wyn Jones, John Glyn Jones, Cen Williams, Dafydd John Pritchard ac Idris Reynolds
Elwyn Edwards yn cofio Dafydd Jones Llansannan
Adroddiad o gynhadledd ym Mhrifysgol Bangor gan Norman Closs Parry
Adolygiadau o Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad (Menna Baines), Nawr (Siân Northey), Bro a Bywyd Gwynfor Evans (Cynog Dafis)
Portread o Idris ap Harri gan Hedd Bleddyn
Colofn Wadd gan Philippa Gibson
'Cerdd Daro' - cyflwyniad cynganeddol i golff gan W. Lloyd Griffith
Colofnau Ceri Wyn Jones, Gwynfor ab Ifor a Grahame Davies
Holi'r Prifardd Eirwyn George a llawer llawer mwy...