Barddas :: Y Gymdeithas Gerdd Dafod

 
  • Cynyddu maint y ffont
  • Maint ffont diofyn
  • Lleihau maint y ffont
Hafan Y Cylchgrawn
Y Cylchgrawn

Y perl yng nghoron y Gymdeithas yw ei chylchgrawn BarddasMae pob rhifyn yn llawn i'r ymylon o erthyglau'n ymwneud â beirdd a barddoniaeth, adolygiadau a cholofnau dan ofal beirdd profiadol a nifer o gerddi na welodd olau dydd o'r blaen.

Mae'r cylchgrawn o dan olygyddiaeth Y Prifardd Twm Morys.

Barddas

Cliciwch yma i flasu rhifyn am ddim.



Gair gan olygydd y cylchgrawn

E-bost Argraffu PDF

TAMAID BLASUS

Mae Barddas 339, sef rhifyn y Gaeaf, wedi cyrraedd erbyn hyn. Bydd Barddas Bach y ’Dolig ar gael ar y we yn nes i’r amser. Tan hynny, dyma ichi damaid i aros pryd a thamaid dros ben ar ôl y wledd! Pethau rhy dda o lawer i roi ffluch iddyn nhw, a phethau i godi blys efallai ar y rheini ohonoch chi sydd efallai HEB DANYSGRIFIO.

Mi fydd darllenwyr y cylchgrawn wedi sylwi nad ydi colofn Sian Northey yn y rhifyn hwn. Mae hi’n iawn i golofnydd gael seibiant bach o dro i dro!  Hefyd, does dim signal yn ynys Enlli.

Dydi colofn Dewi Prysor ddim yn y cylchgrawn chwaith! Mi gytunodd o iddi gael ei chyhoeddi y tro hwn ar y Wefan er mwyn rhoi mwy o le i ‘r holl ddeunydd ôl-eisteddfodol.

Mi fydd ‘Cadwyni Papur’ ac ‘Awyr Iach’ yn eu holau yn y flwyddyn newydd. Ond fydd ‘Trydar Mewn Trawiadau’ Llion Jones ddim. Mae Llion wedi penderfynu rhoi’r gorau i drydar ar bapur. Ond bydd yn dal ati ar y we debyg iawn. Diolch yn fawr iawn iddo am gyfres hir o golofnau difyr ac arloesol.

Gyda llaw, sawl gwaith mae Dafydd Islwyn yn ymddangos yn Barddas y Gaeaf? Beth ydi’r ffurf ferfol sy’n brifo o wallus ar dudalen 56? A pha englyn-y-dydd buddugol (tudalen 48) oedd ddim mor fuddugol y tro cynta’ i fardd o Lanuwchllyn ei daro yn y blwch yn stondin Barddas?

TM, Trefan, 23.11.18

 

Llais y Meini :: Guto Rhys

E-bost Argraffu PDF

Yn y rhifyn cyfredol o Barddas rydym yn croesawu colofnydd newydd, sef GUTO RHYS, ysgolhaig a ieithydd Celtaidd o Lanfairfechan sy’n byw bellach yng Ngwlad Belg. LLAIS Y MEINI mae o’n galw’r golofn newydd, a sôn y bydd hi am englynion bedd. Dyma ichi flas bach ar ei golofn gyntaf. Cewch ddarllen yr ysgrif i gyd, a’r englynion eu hunain - rhai gwych a rhai gwachul - yn y cylchgrawn!

Mae cynllun ar droed i gofnodi a thynnu lluniau holl englynion bedd y byd cyn inni golli llawer ohonynt am byth. Bu degau o aelodau brwd o’r grwp Facebook Englyn Bedd yn tynnu lluniau a’u huwchlwytho. Y gobaith yw cael cyllid sylweddol i ddigideiddio’r corpws cyfan cyn ei bod yn rhy hwyr.

Mae’n bur debyg mai dim ond ar y cerrig eu hunain y ceir y rhan fwyaf o’r englynion hyn gan nad oes modd eu cael ar Google na thrwy wefan Cylchgronau Cymru nac ychwaith mewn casgliadau cyhoeddedig, hyd y gwyddys. Mewn ambell i fynwent, fel honno a berthyn i Eglwys Deiniol yn Llanddeiniolen (Arfon), ceir nifer sylweddol ohonynt, ond prin yw’r mynwentydd heb o leiaf un neu ddau. Yn wir, oni bai eich bod chi yn Sir Faesyfed neu yn Sir Fynwy mae’n bur debyg eich bod ar hyn o bryd o fewn milltir neu ddwy i englyn bedd!

Darllen rhagor...
 

Atebion Cwis Rhifyn Eisteddfod 2018

E-bost Argraffu PDF

Ni fentrodd NEB anfon atebion i’r CWIS CERDDI a luniodd Dylan Foster Evans ar gyfer rhifyn yr Eisteddfod o Barddas, ond gan fod amryw wedi holi amdanyn nhw wedyn, dyma nhw!

  1. Enw’r bardd o blwy Llangeinwyr o’r 16 ganrif: DAFYDD BENWYN
  2. Hen enw Elevens gyferbyn â chastell Caerdydd: YR HEN GRONNELL
  3. Enw’r archdderwydd fu’n gweithio yn nociau Caerdydd: DYFED
  4. Enw’r stryd a roes ei henw i gyfrol o gerddi (gan Jarman): ALBERT STREET
  5. Enw’r parc lle bu Alun Llywelyn-Williams yn ‘ymblesera’: PARC Y RHATH
  6. Enw’r bwyty lle methodd Grahame Davies â chadw bwrdd oedd LE GALLOIS
  7. Enw’r bardd sy’n galw Caerdydd ‘fy nhref i, fy nhir fy hun’ ydi MERERID HOPWOOD
  8. Enw’r heol mae Lona Mari Walters yn ei chasáu ydi CATHEDRAL ROAD
  9. Enw’r gwron y bu Mererid yn barddoni o dan ei gysgod oedd JOHN BATCHELOR
  10. Enw’r sgwâr mae Meic Stephens yn canu amdano ydi LOUDOUN SQUARE
  11. Enw’r lle roedd Rhys Iorwerth yn sôn amdano pan ddywedodd: ‘Yn fan hyn, aeafau’n ôl, / yn ddifaddau o feddwol, / fe’i gwelais; estynnais stôl…’ ydi CLWB IFOR BACH
  12. Enw’r ‘Gwr deddfol, dwys Gaerdyddfardd’ ydi EMYR LEWIS

 

 

Awyr Iach Dewi Prysor

E-bost Argraffu PDF

Colofn arbennig gan Dewi Prysor ar gyfer gwefan Barddas

PRYSOR Y PAITH!

Yn y golofn hon yn rhifyn y Gwanwyn o Barddas mi fûm yn sôn am feirdd o fro Trawsfynydd fu’n defnyddio’r enw barddol ‘Prysor’ dros y cenedlaethau. Os cofiwch, un o’r Prysorfeirdd y soniais amdano oedd William Williams (Prysor), cydoeswr i Hedd Wyn, a ymfudodd i Batagonia yn 1911 a dod i amlygrwydd yno fel bardd, emynwr a golygydd papur newydd Y Drafod. Mi enillodd Prysor goron a dwy gadair yn Eisteddfod y Wladfa, ac mi addewais y byddwn yn chwilio am rai o’i gerddi er mwyn eu rhannu â chi yma.

Diolch i gymwynas Ceris Gruffudd o Benrhyncoch, fu dim rhaid imi chwilota ymhell. Mae cryn dipyn o farddoniaeth Prysor i’w gael yng nghyfrol Awen Ariannin (1960) a olygwyd gan R. Bryn Williams, gan gynnwys y bryddest ‘Y Paith’ – y ‘campwaith’ a enillodd i’r hogyn o’r Traws ei ail gadair yn 1921. Hefyd yn y gyfrol ceir darnau o’r ddwy bryddest fuddugol arall, Y ‘Gorchfygwr’ a ‘Sibrydion y Nos’, yn ogystal â pheth o hanes Prysor, ac ymateb y beirniaid i ganu ‘ffres’ a ‘beiddgar’ y bardd newydd yn y salwn.

Darllen rhagor...
 

Barddas Bach y Nadolig

E-bost Argraffu PDF

Hoffai Barddas ddymuno Nadolig llawen iawn i'w holl aelodau a chyfeillion gyda'r rhifyn arbennig hwn o Barddas Bach y Nadolig. Cliciwch a mwynhewch!

 

Trydar Barddas


Llyfrau Diweddar

Seiniau Barddas

There seems to be an error with the player !

Rhifyn Cyfredol

Beirdd Barddas

dafydd_john.jpg

Pwy sydd yma?

Mae 7 ymwelydd ar-lein