Barddas :: Y Gymdeithas Gerdd Dafod

 
  • Cynyddu maint y ffont
  • Maint ffont diofyn
  • Lleihau maint y ffont
Hafan

Y perl yng nghoron y Gymdeithas yw ei chylchgrawn deufisol Barddas. Mae pob rhifyn yn llawn i'r ymylon o erthyglau'n ymwneud â beirdd a barddoniaeth, adolygiadau a cholofnau dan ofal beirdd profiadol a nifer o gerddi na welodd olau dydd o'r blaen. Rhoddir sylw cyson i feirdd newydd ac ifainc, ac i gerddi a ddaeth yn agos i'r brig mewn eisteddfodau cenedlaethol.

Barddas

Rhifyn 301 - Nadolig 2008

E-bost Argraffu PDF

Yn y siopau bellach y mae rhifyn Tachwedd/Rhagfyr/Ionawr 2008/9. Mae'r rhifyn 72 tudalen hwn o Barddas yn cynnwys:Rhifyn 301

Gwaith buddugol Vernon Jones yng nghystadleuaeth y Gadair, Eisteddfod Pontrhydfendigaid
Cerddi newydd gan Alan Llwyd, Ceri Wyn Jones, John Glyn Jones, Cen Williams, Dafydd John Pritchard ac Idris Reynolds
Elwyn Edwards yn cofio Dafydd Jones Llansannan
Adroddiad o gynhadledd ym Mhrifysgol Bangor gan Norman Closs Parry
Adolygiadau o Byd Go Iawn Un Nos Ola Leuad (Menna Baines), Nawr (Siân Northey), Bro a Bywyd Gwynfor Evans (Cynog Dafis)
Portread o Idris ap Harri gan Hedd Bleddyn
Colofn Wadd gan Philippa Gibson
'Cerdd Daro' - cyflwyniad cynganeddol i golff gan W. Lloyd Griffith
Colofnau Ceri Wyn Jones, Gwynfor ab Ifor a Grahame Davies
Holi'r Prifardd Eirwyn George a llawer llawer mwy...

 

Rhifyn 300

E-bost Argraffu PDF

Newydd ei gyhoeddi y mae rhifyn Awst/Medi/Hydref 2008. Gyda chyhoeddi'r rhifyn hwn y mae Barddas yn cyrraedd carreg filltir nodedig iawn sef y tri chanfed rhifyn. Mae'r cylchgrawn 72 tudalen yn cynnwys: 

300

Trafodaeth ar gerddi'r gadair gan Iwan Rhys a Ceri Wyn.
Trafodaeth ar gerddi'r goron gan Gwynn ap Gwilym, Iwan Llwyd a Cen Williams.
Awdl Pedr (Gwynn ap Gwilym) o Eisteddfod Caerdydd a’r Cylch.
Awdl Kong (Eurig Salisbury) o Eisteddfod Caerdydd a’r Cylch.
Colofn Gwynfor ab Ifor - arbrofi gyda’r gynghanedd.
Colofn Ceri Wyn Jones - iobs Cymraeg.
Colofn Grahame Davies - digido.
Pigion o ymryson Eisteddfod 2008.
Adolygiadau o Lyfr Glas Eurig (Idris Reynolds), Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Caerdydd a’r Cylch 2008 (John Glyn Jones), Yr odliadur newydd (Norman Closs Parry) a Bro a Bywyd Kyffin Williams (Rheinallt Llwyd).
Cerddi newydd gan Huw Meirion Edwards, Alan Llwyd, Dafydd Pritchard a llawer mwy...

 



Pôl Piniwn

Hoff Golofnydd
 

Rhifyn Cyfredol

Pwy sydd yma?

Mae 2 ymwelwyr ar-lein

Newyddion Diweddaraf

Mae dwy awdl a ddaeth yn agos at y brig yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd o waith Eirug Salisbury a Gwynn ap Gwilym i'w gweld yn rhifyn diweddaraf Barddas - y tri chanfed rhifyn.