Newydd ei chyhoeddi y mae Petrograd gan Wiliam Owen Roberts, sef y nofel gyntaf mewn trioleg o nofelau, gyda phob un ohonynt yn hunan-gynhaliol.
Nofel wedi'i lleoli yn Rwsia ac Ewrop yw Petrograd. Mae'r stori yn dechrau yn haf 1916, ac yn ymwneud â hanes dau deulu sydd yn gorfod wynebu'r newidiadau personol a gwleidyddol sydd yn gwyrdroi eu bywydau yn sgil y Chwyldro yn 1917.
Petrograd yw pedwaredd nofel Wiliam Owen Roberts.



Llyfrau


Aeth chwe blynedd heibio ers i T. James Jones gyhoeddi Diwrnod i'r Brenin, a bu'r cyfnod yn gyfnod o golli sawl aelod o'i deulu, y ceir marwnadau dwys ac ysgytiol iddynt yn y gyfrol newydd hon. Ceir hefyd gerddi sy'n dathlu cyfnod o enillion: ei briodas â Manon, priodasau eu plant, a geni tri o wyrion. Dethlir, yn ogystal, gyfnod cyffrous wrth i Gymru adennill peth o'i hunan-barch yn sgil cychwyniad ei Senedd. Mae Nawr yn gyfrol sy'n galaru ac yn gorfoleddu ar yr un pryd.
