Yn y siopau bellach ac ar gael ar faes y Brifwyl, y mae rhifyn Haf 2016 o Barddas. Mae'r rhifyn 52 tudalen hwn yn cynnwys:
Teyrngedau i Swêl (Elwyn Edwards) ar ei ymddeoliad fel Swyddog Gweinyddol Barddas gan Dafydd Islwyn a Gruffudd Antur.
Anerchiad gan Gerwyn Wiliams ar adeg gorchuddio penddelw o Cynan yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli.
Adroddiad gan Endaf Griffiths o Wyl Gerallt 2016, yn cynnwys blas ar yr ymryson.
Cyflwyniad i Feirdd Bro Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy gan Twm Morys.
Yr ail ysgrif yng nghyfres Tim Saunders yn trafod mesurau'r englynion Cernyweg.
Blas ar gyfrol o loffion barddol y diweddar Islwyn (Gus) Jones.
Cerddi arobryn Eisteddfodau Llandudoch (Hefin Wyn) a'r Ffôr (Iestyn Tyne).
Cerddi newydd gan Aneirin Karadog a Cynan Jones.
Colofn gan Fardd Plant Cymru, Anni Llyn.
Colofn arall o drydargerddi Llion Jones.
Colofnau amserol gan Ceri Wyn Jones a Siân Northey a cholofn newydd sbon gan Elis Dafydd.
Adolygiad o Cerddi Alan Llwyd - Yr Ail Gasgliad Cyflawn gan Siôn Aled.