Barddas :: Y Gymdeithas Gerdd Dafod

 
  • Cynyddu maint y ffont
  • Maint ffont diofyn
  • Lleihau maint y ffont
Hafan

Llais y Meini :: Guto Rhys

E-bost Argraffu PDF

Yn y rhifyn cyfredol o Barddas rydym yn croesawu colofnydd newydd, sef GUTO RHYS, ysgolhaig a ieithydd Celtaidd o Lanfairfechan sy’n byw bellach yng Ngwlad Belg. LLAIS Y MEINI mae o’n galw’r golofn newydd, a sôn y bydd hi am englynion bedd. Dyma ichi flas bach ar ei golofn gyntaf. Cewch ddarllen yr ysgrif i gyd, a’r englynion eu hunain - rhai gwych a rhai gwachul - yn y cylchgrawn!

Mae cynllun ar droed i gofnodi a thynnu lluniau holl englynion bedd y byd cyn inni golli llawer ohonynt am byth. Bu degau o aelodau brwd o’r grwp Facebook Englyn Bedd yn tynnu lluniau a’u huwchlwytho. Y gobaith yw cael cyllid sylweddol i ddigideiddio’r corpws cyfan cyn ei bod yn rhy hwyr.

Mae’n bur debyg mai dim ond ar y cerrig eu hunain y ceir y rhan fwyaf o’r englynion hyn gan nad oes modd eu cael ar Google na thrwy wefan Cylchgronau Cymru nac ychwaith mewn casgliadau cyhoeddedig, hyd y gwyddys. Mewn ambell i fynwent, fel honno a berthyn i Eglwys Deiniol yn Llanddeiniolen (Arfon), ceir nifer sylweddol ohonynt, ond prin yw’r mynwentydd heb o leiaf un neu ddau. Yn wir, oni bai eich bod chi yn Sir Faesyfed neu yn Sir Fynwy mae’n bur debyg eich bod ar hyn o bryd o fewn milltir neu ddwy i englyn bedd!

 

Yr englyn bedd  cynharaf y gwn i amdano yw hwnnw i Rys Goch Eryri (bl. 1385 – 1448) o waith ‘Gwilym Lleyn’ o 1570 yr honnir ei fod ym mynwent Beddgelert. Ond er dyfal chwilota gan hynafiaethwyr brwd methwyd â chael hyd i’r garreg ac felly rhaid gohirio’i dderbyn fel man cychwyn y traddodiad.

Prin iawn yw’r englynion yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, a’r gyfundrefn farddol yn prysur ddadfeilio a’r grefft bellach yn nwylo nifer bychan o hynafiaethwyr. Araf ac anwastad yw’r twf hyd at ddiwedd y ddeunawfed ganrif ac yn aml mae’r mynegiant yn drwsgl, y cynnwys yn llac a’r gynghanedd yn wallus. Ond gyda’r dadeni llenyddol, daw gwelliant, a gwelir cynnydd aruthrol yn y nifer, y gwrthrychau a’r safon yn enwedig o tua 1830 ymlaen. Dyma gyfnod yr ‘Hen Bersoniaid Llengar’, eglwyswyr a hynafiaethwyr diwylliedig. I ddysgedigion eraill a gwyr cefnog y canwyd y rhan fwyaf o’r englynion. Clod digon arwynebol, yn ôl ein safonau ni, a geir yn bennaf yn y cyfnod hwn – marwnadu sy’n gallu ymddangos yn gofnodol ddideimlad a barddonllyd.

Yn sgil twf aruthrol Anghydffurfiaeth tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwelwyd datblygu nid yn unig werin lythrennog ond hefyd ddosbarth canol llengar. Defod gymdeithasol fecanyddol yn hytrach na gweledigaeth farddol neu grefyddol sy’n cyfrif am swmp englynion y cyfnod hwn. Eto i gyd ceir llawer o englynion gwreiddiol gan gynnwys rhai i wr du Cymraeg, cyrff a gafwyd ar lan y môr wedi’u boddi, pobl a lofruddiwyd ac yn y blaen.

Mae’n debyg bod y Rhyfel Mawr ac ysgytwad lladdfa’r ‘bechgyn’ yn drobwynt yn hanes yr englyn bedd. Gwelir y pwyslais ar Dduw a’r nefoedd ac Atgyfodiad yn ildio fwyfwy i ganu mwy personol lle cawn gip ar yr ymadawedig ei hun, neu ymdriniaeth â gwirioneddau mwy. Enghraifft dda yw englyn coffa Hedd Wyn i’w gyfaill, Tommy Morris, sydd i’w weld ar y gofeb yn Nhrawsfynydd.

Rhaid pwysleisio nad yn unig yng Nghymru y’u ceir. Gwn am rai ym mynwentydd trefi Lloegr fel Croesoswallt, Falmouth a hefyd yn Lerpwl, ‘prifddinas Gogledd Cymru’ ganrif yn ôl. Mae rhyw drigain yn y Wladfa a llawer ym mynwentydd capeli Cymraeg niferus yr Unol Daleithiau. Ac mae englynion bedd yn ddigon cyffredin hyd heddiw a safon gwaith ail hanner yr ugeinfed ganrif ymlaen yn ysgubol, gyda beirdd gwlad medrus a phrifeirdd oll yn cyfrannu i’r cyfoeth.

Ond yr hyn sydd yn frawychus yw bod llawer o’r cerrig bedd yn cael eu symud, weithiau i gorneli tywyll mynwentydd neu i wneud pafin handi. Dichon mai hwn yw’r corff mwyaf o lenyddiaeth Gymraeg sydd heb ei gofnodi ac mae’n draddodiad unigryw yn Ewrop. A chyda chau capeli a cholli’r to diwylliedig h^yn yr ydym yn prysur golli’r wybodaeth gefndir am gyfran helaeth o’r cyfoeth hwn. Rhan o’r ymgyrch i’w ddiogelu fydd y gyfres hon o erthyglau.

 

Trydar Barddas


Llyfrau Diweddar

Seiniau Barddas

There seems to be an error with the player !

Pwy sydd yma?

Mae 16 ymwelydd ar-lein