Barddas :: Y Gymdeithas Gerdd Dafod

 
  • Cynyddu maint y ffont
  • Maint ffont diofyn
  • Lleihau maint y ffont
Hafan

Awyr Iach Dewi Prysor

E-bost Argraffu PDF

Colofn arbennig gan Dewi Prysor ar gyfer gwefan Barddas

PRYSOR Y PAITH!

Yn y golofn hon yn rhifyn y Gwanwyn o Barddas mi fûm yn sôn am feirdd o fro Trawsfynydd fu’n defnyddio’r enw barddol ‘Prysor’ dros y cenedlaethau. Os cofiwch, un o’r Prysorfeirdd y soniais amdano oedd William Williams (Prysor), cydoeswr i Hedd Wyn, a ymfudodd i Batagonia yn 1911 a dod i amlygrwydd yno fel bardd, emynwr a golygydd papur newydd Y Drafod. Mi enillodd Prysor goron a dwy gadair yn Eisteddfod y Wladfa, ac mi addewais y byddwn yn chwilio am rai o’i gerddi er mwyn eu rhannu â chi yma.

Diolch i gymwynas Ceris Gruffudd o Benrhyncoch, fu dim rhaid imi chwilota ymhell. Mae cryn dipyn o farddoniaeth Prysor i’w gael yng nghyfrol Awen Ariannin (1960) a olygwyd gan R. Bryn Williams, gan gynnwys y bryddest ‘Y Paith’ – y ‘campwaith’ a enillodd i’r hogyn o’r Traws ei ail gadair yn 1921. Hefyd yn y gyfrol ceir darnau o’r ddwy bryddest fuddugol arall, Y ‘Gorchfygwr’ a ‘Sibrydion y Nos’, yn ogystal â pheth o hanes Prysor, ac ymateb y beirniaid i ganu ‘ffres’ a ‘beiddgar’ y bardd newydd yn y salwn.

Dywed R. Bryn Williams am ‘Y Gorchfygwr’, ddaeth â’r goron i Prysor yn 1918, ‘Er ei fod yn waith anaeddfed ac yn amrywio mewn gwerth, daeth â ffresni newydd i ganu’r Wladfa, a dyma’r barddoni gorau a fu yno hyd hynny. Gwelwyd ynddo fardd newydd oedd yn feiddgar ei ddychymyg a’i genadwri, a’i arddull yn drwm dan ddylanwad y deffroad newydd yng Nghymru...’

Cerdd am drechu rhyfel a’r dynion sy’n ei achosi ydi’r ‘Gorchfygwr’. Mae dylanwad Hedd Wyn i’w weld yn eitha’ amlwg ynddi, ond dydi hynny’n ddim syndod wrth gwrs, o gofio bod bardd Yr Ysgwrn yn gyfaill ysgol – ac ysbrydoliaeth – i Prysor. Ac wrth gwrs, mi laddwyd Hedd Wyn yn ffosydd Ffrainc yn y flwyddyn flaenorol, ac roedd y gwallgofrwydd gwaedlyd a’i lladdodd yn dal i ruo drwy Ewrop, a’i gysgod ar fythynnod tlawd bro ei febyd o hyd. Dyma ddywedodd y beirniad, Dyfnallt, am ‘Y Gorchfygwr’: ‘Nid yw diwyg y bryddest hon yn hollol ddi-fai... [Ond] mae llawer o’i darawiadau’n wir newydd a byw, ac nid yw’n gaeth i’r hen arddull o farddoni... a llwydda, gan mwyaf, i roi i ni ddehongliad gwir awenyddol o’i destun...’

‘Sibrydion y Nos’ ddaeth â’r gadair i Prysor yn 1920 – pryddest oedd yn dangos ‘cynnydd mawr yn ei chrefftwaith, ac yn aeddfedrwydd y bardd.’ Pedrog oedd y beirniad, ac meddai: ‘Cerdd ragorol ym mhob ystyr... Cerdd feddylgar, farddonol yw hon drwyddi; wedi ei chynllunio’n ddyfeisgar, a’i gweithio allan yn feistrolaidd a grymus, ac mae ei hiaith yn goeth a’i harddull yn loyw.’

Ond pryddest Prysor i’r ‘Paith’, a enillodd ei ail gadair iddo yn 1921, sy’n cael ei chyfri fel pinacl ei farddoniaeth. ‘Campwaith Prysor yn ddiau yw ei bryddest ‘Y Paith’,’ medd R. Bryn Williams. A chanmoliaeth uchel a gafwyd gan y beirniad, y Parch J. J. Williams, hefyd: ‘Mae hwn yn alluocach bardd na’r lleill. Mae ei feddwl yn ddyfnach, a’i iaith yn gyfoethocach... Llwyddodd i gyfuno deupeth, sef y gwrthrychol a’r mewnol: golygfeydd amrywiol y Paith, a dylanwad y Paith ar ei enaid ef ei hun, a gweodd y cyfan yn un gân gref.’

Dyma ganiad agoriadol ‘Y Paith’:

Aflonydd nwyd sy’n gynnwrf yn fy enaid,
Mae hud y pell a’r dieithr yn fy ngwaed,
Ac ysbryd antur yn ei asbri tanbaid
Gyflyma’r gwaedlif chwim o’m pen i’m traed:
Mi glywaf swyn dirgelwch y pellterau
Yn galw, galw arnaf ar ei ôl,
I mi nid oes ond gwrando’i gyfrinachau
A leddfa’r angerdd yn fy nghalon ffôl.

Ymhell, ymhell tu draw i ffin y gorwel,
Lle gorffwys cwr y lasnef ar y paith;
Ymlaen nes cyrraedd min y bordor cwrel
Gusana’r haul yn ddyddiol ar ei daith,
Dilynaf lwybr unigedd i’w gynefin,
Y fro sydd ddieithr fyth i lygaid dyn,
Namyn i ambell fugail sy’n bererin
Heb nabod ond ei dda, ac ef ei hun.

Yno mae natur wrthi ei hunan
Yng nghymun distawrwydd yn cadw oed,
Ni bu ond lleisiau lledneisiaf anian
Yn esgyn rhwng muriau ei theml erioed:
Po ddyfnaf yr ust ar randir yr allfro,
Grymusaf yw llif ei huodledd hi:
O! rhoddwch i’m henaid egwyl i wrando,
Rhowch barabl dwys yr unigedd i mi,
Lle ceir cyfriniaeth bywyd yn crwydro,
A’r holl ddirgelion o’m blaen yn ddatglo:
Onid afallon fy nghalon yw hi?

Mae perthynas y bardd a’i gynefin wrth iddo ganfod heddwch ei enaid yn un dwfn ac ysbrydol. Mae o’n teimlo’n un â’r paith ac yn cyfleu y llonyddwch a’r rhyddid mewn ffordd hudolus a dwys iawn. Dw i’n gweld hogyn o Gwm Prysor yn ei eiriau, yn ogystal ag arloeswr a’i ysbryd anturus yn canlyn ei freuddwydion wrth grwydro’n awchus tuag at fywyd newydd dros y gorwel pell. Mae’r disgrifiadau lliwgar fel golygfeydd o ffilm gowbois, yn rhoi darlun byw o fywyd y paith:

A’m march yn prancio’n nwyfus odanaf,
A’m gêr yn gyfrwy a gwely clyd,
Ba stad o fywyd yn wir a ddymunaf
Yn fwy annibynnol o fewn y byd?
Fy nryll wrth fy ochr, a’m ci i’m dilyn,
Fe gâr yr helgi’r siwrnai bell,
Ei glust sydd mor denau, ynghwsg ac effro,
A’i lygaid ffyddlon o hyd i’m gwylio,
Ba eisiau ar ddyn am warchodaeth well?

Ar ganter esmwyth rhwng llwyni dreiniog,
Ar wely tywod a chrynfain rhudd,
Hyd erwau gwyryf ei daear donnog
I fyw gyfaredd hirerw rydd:
Yn gyson, gyson eilia’r gorwel
O echwydd i echwydd o’m blaen o hyd,
Mae cwmwl o lwch o’m hôl yn ymgodi,
A rhed aml estrys ar wyr rhwng y llwyni,
Ac yna popeth sydd lonydd a mud.

Dynesa’r haul i gaerau’r gorllewin,
A gwrida gruddiau’r wybren dlos,
Yn fuan daw’r hwyr a’i fantell gyfrin;
Oni phrysuraf fe’m deil y nos:
Am lwyn cysgodol rhyngof a’r awel
Chwiliaf, cyn rhoddi fy mhen i lawr:
Gollyngaf fy march fel y gallo bori,
Cynheuaf dân er mwyn ymborthi,
Ac onid eiddof yr ehangder mawr?

Taflaf bridd dros y marwydos
Rhag i’r gwynt ail gynnau’r tân,
Yna trof i’m gwely diddos
Dan y nef serennog lân;
Nid wyf yn ofni dim i’m drygu,
Nid oes storom yn y nen,
Ac mae’r helgi yntau’n cysgu
Dan y llwyni wrth fy mhen.

Mae’r arddull yn eitha’ hen ffasiwn, mae’n debyg, ond mae’n dal i greu darluniau byw bron i ganrif union ers i Prysor ei hysgrifennu. Mae’r bryddest yn gorffen gyda’r bardd yn mynegi ei ddymuniad i gael ei gladdu ar y paith pan fydd ei fywyd ar ben, i orffwys yn dragwyddol yn y llonyddwch mawr.

Dioer, rhaid i minnau huno, Derfydd fy naearol daith; A melysed fydd gorffwyso Yng nghyfaredd mud y Paith; Y distawrydd dwfn, caredig Yno’n wyliwr mwy i’m hedd, Ac, efallai, flodyn unig Yno’n gwenu ar fy medd.

Yn anffodus, ni chafodd Prysor ei ddymuniad. Cafodd ei daro’n wael tra oedd ar ymweliad â Buenos Aries yn 1945, a bu farw yno, a’i gladdu ym mynwent Brydeinig Chacarita yn y ddinas. Heddwch i lwch Prysor y Paith!

 

Trydar Barddas


Llyfrau Diweddar

Seiniau Barddas

There seems to be an error with the player !

Pwy sydd yma?

Mae 9 ymwelydd ar-lein