Barddas :: Y Gymdeithas Gerdd Dafod

 
  • Cynyddu maint y ffont
  • Maint ffont diofyn
  • Lleihau maint y ffont
Barddas :: Y Gymdeithas Gerdd Dafod

Lansio 'Storm ar Wyneb yr Haul' - Llyr Gwyn Lewis

E-bost Argraffu PDF

Bydd Llyr Gwyn Lewis, bardd preswyl cyntaf Radio Cymru yn lansio ei gyfrol gyntaf o gerddi, Storm ar Wyneb yr Haul, yng Ngwyl Bedwen Lyfrau Nant Gwrtheyrn, brynhawn Sadwrn 3ydd o Fai.

Yna, brynhawn Sul 4ydd o Fai yn siop Palas Print Caernarfon, bydd Llion Jones yn holi Llyr am ei gyfrol ac am yr hyn sy’n ei ysbrydoli fel bardd.

 

Mwy na Bardd - Bywyd a Gwaith Dylan Thomas :: Kate Crockett

E-bost Argraffu PDF

Datganiad i'r Wasg

Dylan Thomas -  ffrind y Gymraeg?

A hithau yn flwyddyn dathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas, mae llyfr newydd gan y newyddiadurwr Kate Crockett yn cynnig golwg ffraeth a ffres ar fywyd a gwaith y bardd a’r awdur. Ac wrth i’r ffrae ynghylch agwedd Dylan tuag at yr iaith Gymraeg gael ei hail gynnau, mae’r awdur hefyd yn gwrthod yr honiad ei fod yn wrth-Gymraeg.

Lle bu digonedd o drafod ac ysgrifennu am ei farddoniaeth a’i fywyd tymhestlog yn Saesneg, mae ‘Mwy Na Bardd: Bywyd a Gwaith Dylan Thomas’, a gyhoeddir gan Cyhoeddiadau Barddas, yn adrodd hanes bywyd Dylan Thomas ac yn ogystal yn trin a thrafod ei waith yn gyflawn rhwng dau glawr, am y tro cyntaf yn Gymraeg.

Gyda chwa o awyr iach a llygaid newyddiadurol craff, mae Kate Crocket yn dod â ffresni ac egni heintus i stori’r llenor cymhleth o Abertawe. Mae ‘Mwy Na Bardd’ yn edrych o safbwynt y Cymry Cymraeg ar ei deulu a’i fagwraeth a’u dylanwad ar ei feddylfryd a’i waith, ei farwolaeth a’r waddol a adawodd ar ei ôl.

Meddai Kate Crockett, newyddiadurwr a chyflwynydd gyda BBC Cymru, sydd eisoes wedi cyhoeddi llyfryn byr ar Dylan Thomas:

“Mae rhai  pobol yn honni bod Dylan yn wrth-Gymreig,  ond pan wnes i wneud yr ymchwil ar gyfer ‘Mwy Na Bardd’, dwi ddim wedi ffeindio unrhyw dystiolaeth i gefnogi hynny o gwbl. Mae’n argraff sydd wedi cael ei chreu  ar hyd y blynyddoedd – ac sy’n cael ei hailadrodd hyd heddiw -  achos bod e’n siwtio rhai pobol i ddweud hynny. Ond roedd profiad Dylan yn eitha‘ tebyg i brofiadau lot o deuluoedd yng Nghymru oedd yn siarad Cymraeg, ac wedi colli’r iaith. Yn ôl llawer o’i gyfeillion, byddai wedi hoffi siarad yr iaith.

“Yng Nghymru roedd Dylan eisiau byw, doedd e ddim eisiau bod yn unman arall... Gyda’i ffrindiau o’i ddyddiau yn Abertawe oedd e’n teimlo yn gyfforddus. Doedd e ddim yn un o’r bobol yma wnaeth droi ei gefn ar Gymru neu esgus bod e ddim yn dod o Gymru.”

“Mae ei waith e wedi cael ei gyfieithu i’r Gymraeg, ond does dim byd am ei hanes e yn y Gymraeg. Ry’n ni mewn ffordd wedi gadael i bobol eraill i ddweud wrthon ni beth i feddwl amdano fe yn hytrach na gwneud ein penderfyniad ein hunain amdano fe, o safbwynt Cymry Cymraeg.”

Yn anochel, mae’r awdur hefyd yn ei ystyried o safbwynt un sy’n byw ym mwrlwm yr unfed ganrif ar hugain ac yn gwneud ambell gymhariaeth drawiadol yn ‘Mwy Na Bardd’ - dyma’n sicr y tro cyntaf y cafodd Dylan Thomas ei gymharu â Michael Jackson.

“Pan fu farw’r canwr Michael Jackson yn 2009, er enghraifft, roedd cryn dipyn o’r manylion yn adlais cyfarwydd i’r rheiny sydd wedi darllen am farwolaeth Dylan Thomas: y problemau dibyniaeth a’r pryderon iechyd, rôl y meddyg preifat esgeulus, a’r pwysau a roddwyd ar ddyn bregus i groesi Môr Iwerydd i berfformio er mwyn talu ei ddyledion.”

Symud i Abertawe, ‘ugly lovely town’ y bardd, chwe blynedd yn ôl, a sbardunodd ddiddordeb Kate Crockett yng ngwaith Dylan Thomas.

“Fe wnes i ddechrau darllen llawer o’i waith bryd hynny,  a throi at y rhyddiaith nad oeddwn i mor gyfarwydd ag e. Doeddwn i ddim yn meddwl amdano fe fel awdur rhyddiaith i ddweud y gwir ac mae hynny yn un peth yr hoffwn i’r llyfr yma ei wneud, sef gwneud i bobl droi at ei straeon e yn arbennig achos dydyn nhw ddim mor adnabyddus. Mae yna gymaint o sôn am Under Milk Wood, eleni yn arbennig,  ac mae yna gymaint yn cael ei wneud am ei farddoniaeth e. Dwi eisiau i bobl gofio amdano fe fel awdur rhyddiaith hefyd.”

Mae’r awdur yn rhoi cryn sylw i deulu Dylan - ewythr ei dad, Gwilym Marles oedd yn ffigwr amlwg yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a chwaraeodd ran flaenllaw yn hanes gwleidyddol a chrefyddol y cyfnod.

Mae ‘Mwy Na Bardd’ yn atgoffa dyn bod llawer mwy i’w gofio na’ r meddwyn helbulus a oedd erbyn y diwedd yn cynhyrfu mwy o ddyfroedd gyda’i ymddygiad na’i ddawn.

“Yn y cofiannau niferus ohono, yn aml iawn mae’r ochr annifyr o’i gymeriad  yn dod mas,” meddai Kate. “Mae’n wir ei fod e’n begera, ei fod e weithie hyd yn oed yn dwyn oddi ar ei ffrindiau, doedd e ddim yn ?r da nag yn dad arbennig o gariadus...

“Ond fe es i ati i ddarllen llawer o’r pethau roedd pobol oedd yn ei adnabod e wedi dweud a beth oedd gan y bobol oedd wedi gweithio ‘da fe i’w ddweud, ac yn sydyn rwyt ti yn gweld yr ochor arall iddo fe, y dyn arbennig oedd yn cael effaith anhygoel ar bobol, yn gwneud iddyn nhw deimlo yn ‘special’ ac roedd e hefyd yn cymryd ei waith o ddifri.

“Er bod yr elfen clown yna, ti’n ffaelu gwadu hwnna, a ti’n ffaelu gwadu ei fod yn  gallu bod yn ddyn anodd, roedd e yn dal yn ddyn wnaeth greu argraff arbennig iawn ar bobol.

“Beth bynnag mae neb yn ddweud amdano fel, mae’n dweud amdano fe’i hunan. Oedd e yn ymwybodol iawn o’i ffaeleddau ac am ddyn a oedd mor hoff o’r ddynoliaeth, doedd e ddim bob amser mor hoff ohono’i hun.”

Mwy Na Bardd: Bywyd a Gwaith Dylan Thomas

gan Kate Crockett
Cyhoeddiadau Barddas

£8.95 E-lyfr £7.95

27.03.14

English language press release

 

Rhifyn 322 :: Gwanwyn 2014

E-bost Argraffu PDF

Yn y siopau bellach y mae rhifyn Gwanwyn 2014 o Barddas, gyda llun trawiadol gan Tudur Dylan ar y clawr. Ymhlith yr eitemau yn y rhifyn 52 tudalen hwn:

Rhifyn 322

Myrddin ap Dafydd yn cynnal sgwrs gydag un o gerddi R.S. Thomas 'The Small Window'.
Arfon Gwilym yn trafod ei hoffter o fesur 'Y Tri Thrawiad'.
Erthygl gan Emyr Gruffudd am raglen deledu Cwmni Da ar 'Y Cadeiriau Coll'.
Ysgrif deyrnged gan Robert Minhinnick i'r bardd Nigel Jenkins.
Cerdd deyrnged gan Twm Morys i Nigel Jenkins wedi'i darlunio gan Iwan Bala.
Colofn newydd sbon o drydargerddi Llion Jones. 
Yn ei golofn sefydlog, Gwyn Thomas sy'n myfyrio dros y duedd i golli talpiau o eirau trwy dalfyrru.
Colofnau difyr gan Dewi Prysor, Siân Northey, Ceri Wyn Jones ac Aneirin Karadog.
Yng Nghongol yr Ysgolion twm Morys sy'n trafod 'Sgrifen yn y Tywod' gan Iwan Llwyd.

Cerddi ac englynion newydd gan Gwyn Thomas, Myrddin ap Dafydd, Tudur Dylan Jones, Dafydd John Pritchard a Dafydd Williams.
Adolygiad o Lôn Fain Dafydd John Pritchard (gan T. James Jones) 
Adolygiad o Profiafau Inter Galactig Gwyn Thomas (gan Elis Dafydd)
Adolygiad o Y Meirw Byw Y Datgyfodiad (gan Gruffudd Antur)
Beirniadaeth ar gystadleuaeth yr englyn gan Gerallt Lloyd Owen.

 

Buarth Beirdd (gol: Eurig Salisbury)

E-bost Argraffu PDF

Yn y siopau

Y Mabinogi, Arthur, Taliesin, Dafydd ap Gwilym … maen nhw i gyd yn enwog iawn yng Nghymru a thu hwnt. Ond ym mhle cafodd yr enwau hyn eu cofnodi mewn llyfr am y tro cyntaf? A phryd? Ac ar gais pwy? A pham?

Yn y gyfrol hardd hon ceir cyflwyniadau gwych i chwech o lawysgrifau mwyaf eiconig yr iaith Gymraeg – Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Aneirin, Llawysgrif Hendregadredd, Llyfr Taliesin, Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Coch Hergest. Ceir hefyd gerddi ac ysgrifau gan un ar bymtheg o feirdd cyfoes yn ymateb i gynnwys rhai o drysorau mwyaf gwerthfawr y genedl.

£10.95

 

Trydar Barddas


Rhifyn Cyfredol

Llyfrau Diweddar

Beirdd Barddas

Emyr-Lewis.jpg

Seiniau Barddas

There seems to be an error with the player !

Pwy sydd yma?

Mae 2 ymwelydd ar-lein