2
Twm Morys


  

Mae ’na saith mlynedd a mwy er pan gyhoeddwyd Ofn Fy Het, sef ymchwiliad seico-semantaidd cyntaf yr Athro Neil Sagam i dreigliad meddwl y bardd Twm Morys. Bydd swp mawr o froc-môr yn hel mewn hynny o amser, a gan nad yw’r Athro byth wedi olrhain y treigliad hyd y pen, dyma gyhoeddi tocyn mawr arall o’i nodiadau. Unwaith eto, ychydig ar y naw o sôn sydd yma am bynciau mawr y dydd. Yr unig gyfeiriad, er enghraifft, at droad y Mil Blynyddoedd mwyaf aruthrol a fu dros ben dyn ar y ddaear yw’r is-deitl i’r englynion am wyau ieir Mrs Beryl Povey, Pen Sarn, sef ‘Melynwy y Mileniwm’.

Themâu amlwg yn y gwaith yw barfau, hetiau a seintiau. Nid anghofiwyd yn llwyr am y llambedyddiol a’r dodo. Ond, chwedl yr Athro, ‘bu rhyw newid mawr yn sw^n paldaruo’r bardd yn ddiweddar... Ac er bod yma ambell gerdd yn sôn am deithio’r gwledydd ... y cwbl y bu’n ei wneud ers tro byd yw rhaffu englynion ac ‘awdlau’ am bobol a phethau yn ardal Eifionydd.’

Os bydd rhyw gw^yn neu ymholiad yn codi yn sgîl darllen y gyfrol hon, gellir cysylltu â’r bardd ar twmmorys@hotmail.com.

ISBN 1 900437 48 1
Pris: £6.00