Englynion a Cherddi
T. Arfon Williams
Y Casgliad Cyflawn
Gol: Alan Llwyd

  

Mae’r gyfrol hon yn cynnwys pob englyn a cherdd a gyhoeddwyd yn nhri chasgliad cyhoeddedig T. Arfon Williams: Englynion Arfon (1978), Annus Mirabilis a Cherddi Eraill (1984) a Cerddi Arfon (1996). Yn ogystal, ceir ynddi nifer helaeth o gerddi na chyhoeddwyd mohonyn nhw yn ei dair cyfrol gyntaf. Mae cyfran sylweddol o’r cerddi hyn yn gerddi a luniwyd gan Arfon ar ôl i Cerddi Arfon ymddangos ym 1996 a chyn ei farwolaeth annhymig ym 1998, ond achubwyd rhai cynharach hefyd rhag mynd ar ddifancoll, gan gynnwys un o’i englynion gorau oll.
  Daeth Arfon i amlygrwydd cenedlaethol drwy gyfrwng Colofn Alan Llwyd, golygydd y gyfrol hon, yn Y Cymro, 1973-77. Enillodd gystadleuaeth fisol yr englyn yn y golofn honno sawl tro. Yn wir, dim ond newydd ddysgu rheolau’r gynghanedd yr oedd Arfon pan enillodd am y tro cyntaf. Digwydd a wnaeth Arfon, ac nid datblygu. Fel y dywed Emyr Lewis yn ei gyflwyniad i’r casgliad hwn:

Yn wahanol i’r rhan fwyaf sy’n ymhél â’r gynghanedd, ni fu cyfnod maith o brentisiaeth, na chwaith gyhoeddi juvenilia a fyddai’n peri embaras i’r bardd aeddfed. ’Roedd Arfon yn fardd cyflawn o’r cychwyn, fel pe bai’r ddawn i farddoni wedi disgyn arno drwy rym hud a lledrith, yn debyg i’r hyn a ddigwyddodd i Gwion Bach yn chwedl Taliesin.

  Aeth ymlaen i ennill gwobrau lu mewn eisteddfodau a chylchgronau eraill, fel Barn a Barddas, nes cyrraedd llwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol. Enillodd chwech o weithiau yn y Brifwyl: 1980 (dau englyn ganddo yn gydradd â dau englyn arall), 1984, 1989, ac wedyn deirgwaith yn olynol, 1992, 1993 a 1994. Daethpwyd i alw’r math o englyn yr oedd Arfon yn feistr arno fel ‘yr Englyn Arfonaidd’. Nodweddir yr Englyn Arfonaidd gan y dull-un-frawddeg o ddweud, yn aml, gan gyfoeth a dyfnder ystyr, gan ddelweddu gwreiddiol a gwefreiddiol, a chan ddeallusrwydd miniog.

  Mae’r gyfrol hon yn dathlu cyfraniad unigryw T. Arfon Williams i farddoniaeth Gymraeg, ac yn enwedig i’r traddodiad englyna yn y Gymraeg.

ISBN 1 900437 58 9
Pris: £12.00