![]() |
|
|
|
Brwydr Moderniaeth a Beirdd Modern Alan Llwyd Maer gyfrol hon yn cynnwys un ar ddeg o ysgrifau, gan gynnwys rhai ysgrifau estynedig, ar rai o feirdd a llenorion yr ugeinfed ganrif. Trafodir gwaith Thomas Hardy; Edward Thomas a Robert Frost; cerddi eisteddfodol Cynan; pryddestau eisteddfodol Caradog Prichard; Atgof, E. Prosser Rhys, a Bro fy Mebyd, Wil Ifan; dwy awdl gan Gwenallt, Y Sant a Breuddwyd y Bardd; y ddrama Cwm Glo gan J. Kitchener Davies; a gwaith Waldo Williams, Bobi Jones, Gwyn Thomas a Ted Hughes. Rhoir unoliaeth ir gyfrol gan sawl thema. Maen ymwneud â sylfeini, i ddechrau: sylfeini Moderniaeth yn gyffredinol, a sylfeini Moderniaeth yng Nghymru yn enwedig. Canolbwyntir yn bennaf ar weithiau a oedd yn chwyldroadol yn eu dydd, o waith Hardy, un o dadau Moderniaeth yn Lloegr, hyd at y ddrama Cwm Glo: gweithiau a ehangodd ffiniau thematig, strwythurol ac ieithweddol y Gymraeg. Maer pedair ysgrif olaf yn dathlu cyflawniad Moderniaeth yn hytrach nai dechreuad. Yn ogystal â thrafod gwreiddiau Moderniaeth, trafodir gwreiddiau gweithiau diweddarach yman ogystal. Maer astudiaeth arloesol o farddoniaeth Caradog Prichard, er enghraifft, yn dangos fel yr oedd y farddoniaeth honno, yn y pen draw, wedi arwain at y nofel Un Nos Ola Leuad, un o nofelau pwysicaf yr iaith Gymraeg. Maer gyfrol yn gynnyrch meddwl gwreiddiol ac annibynnol beirniad llenyddol y dywedwyd hyn amdano gan Dewi Stephen Jones mewn cyfrol ddiweddar: Gallu mawr Alan Llwyd fel beirniad yw datgloi a dehonglir gerdd unigol ai gosod o fewn cyd-destun ei lle yng ngwaith yr artist ai harwyddocâd yng nghyd-destun ei oes. ISBN 1 900437 61 9 Pris: £15.00 |
|
|