![]() |
|
|
|
R. M. Jones Ennillydd Gwobr Ellis Griffith a Buddged Mrs L W Davies 2003/04 Yng nghyfarfod y Bwrdd Celtaidd dyfarnwyd Gwobr Ellis Grffith a Buddged Mrs L W Davies ar gyfer 2003/04 i R M Jones am ei ddwy gyfrol Mawl a'i Gyfeillion (2000) a Mawl a Gelynion ei Elynion (2002). Maer gyfrol Mawl a Gelynion ei Elynion yn archwilior Traddodiad Mawl Cymraeg yn y cyfnod diweddar. Mae hefyd yn trafod un wedd ar theori gyflawn ynghylch adeiladwaith beirniadaeth lenyddol. Yn ôl yr awdur, R. M. Jones, un wedd ar yr astudiaeth ddwyran hon yw cysylltur athrawiaeth am Sofraniaeth y Sfferau, fel yi ceid gan Abraham Kuyper a Herman Dooyeweerd yn Amsterdam, âr athrawiaeth a gyfleir gan amrywiaeth cydlynol y traddodiad Cymraeg. Dywedodd y diweddar R. Tudur Jones yntau am ragflaenydd ir astudiaeth hon (sef Llên Cymru a Chrefydd): Dymar llyfr pwysicaf ar ddiwylliant Cymru a gyhoeddwyd oddi ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd ... Ynddo maen esbonio, am y tro cyntaf yn Gymraeg, egwyddorion yr athroniaeth Feiblaidd ac efengylaidd honno, a ddatblygwyd yn yr Iseldiroedd gan Abraham Kuyper, Herman Dooyeweerd au disgyblion. Er na chafodd y pwyslais hwn fawr sylw yng Nghymru hyd yma (na Lloegr, wrth gwrs!) maen haeddu sylw manwl oherwydd dymar cyfraniad mwyaf trawiadol er dyddiau John Calfin ei hun ir ddealltwriaeth efengylaidd or berthynas rhwng y ffydd Gristnogol a gwaith diwylliannol dyn ... Dymar tro cyntaf i lenyddiaeth unrhyw genedl gael ei thrafod o ben bwyi gilydd gan aelod or ysgol ... Maen llawnach nar un astudiaeth gyffelyb arall ac yn haeddu ei lle gyda chynhyrchion mwyaf disglair yr ysgol hon ... Maer llyfr trwyddon offeryn amhrisiadwy yn llawr sawl sydd am fyfyrio ar ddatblygiad syniadaeth yng Nghymru. Dadansoddi Cymhelliad anochel llenyddiaeth a wnar drafodaeth bresennol. Dangosir perthynas glòs rhwng hynny ar Traddodiad Mawl Cymraeg. Drwy fyfyrdod gwreiddiol am reidrwydd adeiladwaith llenyddiaeth y maen dehongli gwedd bwysig ar natur pob llenydda. Gwneir hynny o flaen cefndir gelyniaethus o ragdybiau Ôl-feirniadaeth ffasiynol. Yn yr ateb cyson a rydd y Traddodiad Cymraeg ir rheini gwelir llwybr unigryw Cymraeg yn y cyfwng cyfoes. Yn ystod diwedd yr ugeinfed ganrif aeth ansicrwydd yn ddogma confensiynol mewn cylchoedd deallol. Dangosir yma sut y mae Cymhelliad llenyddiaeth yn herior rhagdybiau sgeptig hyn. ISBN 1 900437 53 8 Pris: £14.00 |
|
|