Cerddi Jac Glan-y-Gors
Gol: E G Millward


  

Yn y detholiad difyr hwn cawn weld yn glir sut yr enillodd creawdwr Dic Siôn Dafydd ei le arhosol yn hanes llên Cymru. Dyma gynnyrch tafarnwr a baledwr a wyddai mai ei amcan cyntaf oedd difyrru ei gynulleidfa ac a wnaeth hynny trwy greu cymeriadau cofiadwy sydd yn ymgorffori ei ddychan miniog ar ei gyd-Gymry. Hawdd gweld o’r cerddi sut y bu Jac Glan-y-gors yn brydydd mor boblogaidd ymhlith ei gyd-alltudion yn Llundain a ledled Cymru ac yn brif ddychanwr ei oes.

Gw^r paradocsaidd oedd Glan-y-gors: mab fferm a adawodd etifeddiaeth lenyddol gyfoethog Sir Ddinbych yn y ddeunawfed ganrif i wella ei fyd yn Llundain ond a gadwodd gyswllt agos a bywiol â’i gynefin trwy gydol ei fywyd; dyn gwrthenwadol a gwrthoffeiriadol a gefnogai Gymdeithas y Beiblau; Cymro a briododd Saesnes ac a fu’n byw yn ddiddig yn y brifddinas ond a fu’n hybu Cymreictod yn rymus trwy roi gwedd Gymreig a gwladgarol ar y balchder rhagrithiol a welai o’i gwmpas.

Serch hynny, nid cofnod hanesyddol yn unig mo’r detholiad hwn. Mae yma ganu sydd yn gyfoes ei apêl a ddengys fod Jac Glan-y-gors yn llawn haeddu ei le yng nghof cenedl y Cymry.

ISBN 1 900437 63 5
Pris: £9.00