Bro a Bywyd: Iorwerth Cyfeiliog Peate
Gol: R. Alun Evans


  

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ar feysydd Mathrafal ym Meifod, ar dir a daear Maldwyn. ‘Os bu mab balch o’i dras erioed yna’r mab hwn o Faldwyn – Iorwerth Cyfeiliog Peate – oedd hwnnw,’ meddai R. Alun Evans, un arall o feibion y fro a golygydd y gyfrol hon, y ddiweddaraf yn y gyfres Bro a Bywyd. Cyhoeddir y gyfrol i gyd-daro â chynnal yr Eisteddfod Genedlaethol ym Maldwyn.

  Yn ystod ei fywyd, ’roedd Iorwerth Peate yn un o ffigurau cyhoeddus amlycaf Cymru. Bu iddo ran allweddol yn y gwaith o greu a chynnal Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan. Yr oedd yn fardd, yn llenor, ac yn ysgolhaig a oedd wedi arbenigo ar Archaeoleg Geltaidd, i ddechrau, ac wedyn ar grefftau, diwylliant ac arferion gwledig. Ganed Iorwerth Peate ym Mhandy Rhiwsaeson yn Llanbryn-mair, Maldwyn, a bu’n lladmerydd y traddodiad Anghydffurfiol, Radicalaidd a gwerinol a elwir yn ‘Draddodiad Llanbryn-mair’ drwy gydol ei oes. Yng Ngholeg Prifysgol Cymru bu’n ddisgybl i T. Gwynn Jones a H. J. Fleure, ac ym 1927 cafodd ei benodi yn Is-geidwad Adran Archaeoleg Amgueddfa Genedlaethol Cymru, a’i ddyrchafu wedyn ym 1932 yn bennaeth Is-adran Diwylliant a Diwydiannau Gwerin, penodiad a arweiniodd at y gwaith hollbwysig o sefydlu Amgueddfa Werin Cymru yn y pen draw. Iorwerth Peate oedd Curadur cyntaf yr Amgueddfa.

  ’Roedd Iorwerth Peate yn &Mac222;r unigryw. Meddai R. Alun Evans amdano: ‘Un o wylwyr effro y ffiniau oedd ef; un yr oedd annibyniaeth barn yn bwysig yn ei olwg, boed hynny ar faterion diwylliannol, diwydiannol, crefyddol, gwleidyddol, cymdeithasol, llenyddol, archaeolegol ...’ Mae’r gyfrol hon yn talu gwrogaeth i un o gymwynaswyr mawr Cymru.

ISBN 1 900437 60 0
Pris: £10.00