Cerddi Bryan Martin Davies
Y Casgliad Cyflawn


  

Mae’r gyfrol hon yn cynnwys yr holl gerddi a gyhoeddwyd ym mhum casgliad Bryan Martin Davies o gerddi: Darluniau ar Gynfas a Cherddi Eraill (1970), Y Golau Caeth (1972), Deuoliaethau (1976), Lleoedd (1984) a Pan Oedd y Nos yn Wenfflam (1988), ynghyd â dwy gerdd weddol ddiweddar a ymddangosodd yn Barddas.

  Ganed Bryan Martin ym Mrynaman, Sir Gaerfyrddin, ym 1933, a’i addysgu ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Bu’n athro Cymraeg yng Ngholeg Chweched Dosbarth Iâl hyd at ei ymddeoliad ym 1985.  Enillodd Bryan Martin Davies y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman a’r Cylch ym 1970 ac yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor ym 1971. Yn ogystal â’i bum cyfrol o gerddi cyhoeddodd hefyd ddau gyfieithiad, Nadolig Plentyn yng Nghymru Dylan Thomas (1978) a Prolog Chwedlau Caer-gaint Chaucer (1983). Ym 1980 cyhoeddodd astudiaeth feirniadol o waith Watcyn Wyn, Rwy’n Gweld o Bell, a nofel, Gardag, ym 1988.

  Daeth Bryan Martin Davies â’i foderniaeth unigryw ef ei hun i mewn i farddoniaeth Gymraeg. Meddai R. M. Jones amdano mewn astudiaeth ddiweddar: ‘Bryan Martin Davies yw bardd pwysicaf Dyffryn Aman ... Bardd bro ddiwydiannol a bardd tref ar y gororau yw, ac yn y blynyddoedd diweddar bardd yr ymlafnio ysbrydol’. Mae cael yr holl gerddi hyn ynghyd mewn un gyfrol – y cerddi diwydiannol cynnar, y cerddi trefol canol a’r cerddi ymholgar diweddar – yn sicr o adael argraff annileadwy.

ISBN 1 900437 57 0
Pris: £13.00