Beirniadaeth Gyfansawdd
Fframwaith Cyflawn Beirniadaeth Lenyddol
R. M. Jones

  


  Dyma’r ymgais gyntaf i olrhain adeiladwaith y llenddull (genre) ‘beirniadaeth lenyddol’.

  Sut y mae hwn felly’n wahanol i lyfrau cyffredinol eraill ar feirniadaeth lenyddol?

  Yn wahanol i lyfrau cyffredinol arferol sy’n ceisio disgrifio ychydig o agweddau gwahân ar feirniadaeth, ac o bosib yn symud ar draws rhestr o wahanol fathau, dengys y gyfrol hon beth yw’r adeiladwaith cyfansawdd sydd i feirniadaeth oll fel ffurf gyflawn. Olrheinia, felly, holl hanfodion strwythur y maes. Nid disgrifio ychydig o fathau gwahanol o feirniadaeth yw ei nod er ei bod yn ymdrin â rhai agweddau. Dengys yn hytrach y rhannau angenrheidiol yn y cyfan: beth ydynt, pam y maent yn bod, a sut y maent yn ymwneud â’i gilydd mewn modd deinamig.

  Dadansoddiad gwreiddiol a newydd yw’r arolwg o holl ystod gwyddor a chelfyddyd beirniadaeth. Eto, nid dangos yn unig berthynas yr agweddau gwahanol ar y pwnc a wna, ond datgelu hefyd ym mha fodd y maent yn cydadeiladu’n olynol i wneud cyfanwaith. Ymwneud y mae’r awdur â ffeithiau esboniol ‘gorfodol’ neu ‘sicr’. Ac yn hynny o beth y mae’n bosibl y bydd yn sathru ychydig ar ambell fawd ôl-fodernaidd.

ISBN 1 900437 59 7
Pris: £14.00