Alan: Cyfrol Deyrnged
Gol. Huw Meirion Edwards


  


  Pan ddeuir i gloriannu byd llên yng Nghymru yn nhraean olaf yr ugeinfed ganrif, bydd i Alan Llwyd ran flaenllaw yn yr hanes. Fel golygydd y cylchgrawn Barddas, fel cyhoeddwr, fel cofiannydd a beirniad, fel sgriptiwr, ac yn anad dim fel Bardd, bu ei gyfraniad hyd yma yn sylweddol. Dyma gyfres o ysgrifau a chyfweliadau sy’n cynnig golwg newydd ar yr amryfal weddau hynny, o arbrofion cynnar y llanc o Lªn hyd y gyfrol drawiadol Ffarwelio â Chanrif a’r gwaith diweddar ym maes ffilm a theledu.

A Barddas bellach dros ei bump ar hugain oed, cafodd y beirdd hwythau ddweud eu dweud mewn casgliad o gerddi caeth a rhydd.
  Yn ogystal â’r cerddi ceir yma ‘Atgofion Dyddiau Ysgol’ gan Moi Parri; ‘Alan Llwyd yn Fyfyriwr’ gan y diweddar Derwyn Jones; ‘Colofn Farddol Y Cymro: Rhagfyr 1973-Medi 1977 gan Elwyn Edwards, a ‘Barddas: Y Chwarter Canrif Cyntaf’ gan Huw Meirion Edwards. Wedyn ceir ‘Alan Llwyd: Bardd’ gan Gwyn Thomas, ysgrif gyffredinol ar farddoniaeth Alan Llwyd, ac ‘Ar Drywydd y Tragwyddol: Golwg ar Ddwy Gerdd’ gan Jerry Hunter. Ceir ‘Braslun o’r Beirniad’ gan Dewi Stephen Jones, tra bo Cynfael Lake yn trafod Alan Llwyd y cofiannydd yn ‘Y Cofiannydd: Gronwy Ddiafael, Gronwy Ddu’. Holwyd gwrthrych y gyfrol am ei gefndir a’i syniadau gan M. Wynn Thomas yn ‘Ynghylch Llenydda a Beirniadaeth’. Caiff cyfraniad Alan Llwyd i’r cyfryngau sylw yma hefyd. Mae Mihangel Morgan yn trafod Hedd Wyn yn ‘Golwg ar Sgript y Ffilm Hedd Wyn’ tra bo T. James Jones yn holi Alan Llwyd am ei waith i’r cyfryngau yn gyffredinol yn ‘Y Sgriptiwr Ffilm a Theledu’. Yn goron ar y cyfan y mae llyfryddiaeth fanwl a gwerthfawr Huw Walters o holl weithiau Alan Llwyd.

ISBN 1 900 437 511
Pris: £9.95